Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
21 Mai 2018
SL(5)213 – Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2005 mewn perthynas â materion y mae rhaid i awdurdod lleol ymdrin â hwy yn ei adroddiad ar gyfer y llys, a’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i blant a oedd gynt yn derbyn gofal mewn ardal awdurdod lleol arall.
Rhiant-Ddeddf:
Fe’u gwnaed ar: 02 Mai 2018
Fe’u gosodwyd ar: 08 Mai 2018
Yn dod i rym ar: 02 Gorffennaf 2018
SL(5)214 – Cod Ymarfer ar weithredu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn cysylltiad â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig
Gweithdrefn: Negyddol
Caiff y cod ymarfer hwn ei gyhoeddi yn unol ag adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’), sy’n rhoi grym i Weinidogion Cymru gyhoeddi deddfwriaeth ynglŷn ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn cysylltiad â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig, weithredu yn unol â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y cod hwn. Nid yw adran 147 o’r Ddeddf (eithrio o ofynion deddfwriaeth) yn berthnasol i unrhyw un o’r gofynion sydd wedi eu
cynnwys yn y cod hwn, felly mae’n rhaid dilyn y cod hwn yn ei gyfanrwydd.
Yn y cod hwn, mae rheidrwydd wedi ei fynegi fel ‘rhaid’ a ‘ni chaiff’. Caiff canllawiau eu mynegi fel ‘gall / gellir’ ac ‘nid oes rhaid’ neu ‘dylai’ ac ‘ni ddylai’.
Mae’r cod ymarfer hwn yn disodli’r canllawiau statudol ar warcheidiaeth arbennig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2006.
Yn ystod 2016-17 aeth Llywodraeth Cymru ati i adolygu gorchmynion gwarcheidiaeth yng Nghymru. Mae’r cod ymarfer hwn yn deillio o’r adolygiad hwnnw. Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i aelodau’r Grŵp Technegol Gwarcheidiaeth Arbennig a gynorthwyodd Llywodraeth Cymru gyda’r adolygiad hwn.
Rhiant-Ddeddf: Cyhoeddwyd o dan Adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesaint (Cymru) 2014
Fe’u gosodwyd ar: 09 Mai 2018